Skip to main content
Corfforaethol

Corfforaethol

rural.jpg
rural.jpg

Encil gwledig perffaith

Mae Tŷ Bryngarw wedi’i leoli yng nghanol Parc Gwledig Bryngarw arobryn, sy’n ei wneud y lleoliad delfrydol ar gyfer yr encil gwledig perffaith. Rydym yn cynnig mannau hyblyg ar gyfer eich cyfarfod, cynhadledd, cinio gwaith, cwrs hyfforddi neu ginio mawreddog nesaf. 

Digwyddiadau

Mae gennym amrywiaeth o ystafelloedd hygyrch a all ddal rhwng 8 ac 80 o bobl ag amrywiaeth o gynlluniau yn addas i’ch gofynion. Mae gan ein hystafell gynadledda newydd sbon offer clyweled o’r radd flaenaf ac mae Wi-Fi am ddim ar gael ym mhob rhan o’r lleoliad. 

conservatory.jpg

Yr ystafell haul

Gyda golygfeydd bendigedig dros lawnt a phwll hwyaid Tŷ Bryngarw, mae’r lle golau ac awyrog hwn yn ddelfrydol ar gyfer sesiynau grŵp, rhwydweithio dros ginio bwffe neu dderbyniad diodydd.  

marque.jpg

Y Babell Fawr

Mae’r ystafell hon yn boblogaidd ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau mwy, a gall ddal hyd at 64 o bobl ar ffurf cabaret neu 80 o bobl ar ffurf gwledd. Gellir darparu taflunydd a sgrin neu siart droi a phennau. Mae’r babell fawr yn cynnig digon o le ac yn elwa ar olau naturiol a gardd fendigedig yn gefnlen. Gellir ei llogi hefyd ar gyfer digwyddiadau gyda’r nos fel digwyddiadau codi arian ar gyfer elusennau, nosweithiau cinio a dawns neu seremonïau gwobrwyo. 

traherne-suite.jpg

Ystafell Traherne

Mae’r ystafell hon yn elwa ar olau dydd naturiol o ganlyniad i’w ffenestri o’r llawr i’r nenfwd, a gall ddal hyd at 36 o bobl ar ffurf cabaret ac 80 o bobl ar ffurf theatr. Er nad oes offer clyweled sefydlog, gellir darparu taflunydd a sgrin neu siart droi a phennau. Mae ei mynediad i’r babell fawr yn gwneud yr ystafell hon yn lle delfrydol ar gyfer sesiynau grŵp hefyd neu le arddangos bach ar gyfer digwyddiadau mwy.

conference-room.jpg

Yr Ystafell Gynadledda

Mae ein hystafell gynadledda wedi’i hailwampio’n ddiweddar ac mae’n cynnwys offer clyweled o’r radd flaenaf. Gall ddal hyd at 16 o bobl ar ffurf ystafell y bwrdd. Mae’r ystafell hon yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd busnes llai, cyflwyniadau a chyrsiau hyfforddi. 

trust-image.jpg

GWNEUD GWAHANIAETH

Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen

Gofelir am Dŷ Bryngarw gan elusen gofrestredig, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Trwy gynnal eich achlysur arbennig yma, byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl leol a fydd yn elwa ar lesiant a chyfleoedd Awen ledled De Cymru.

Ymholwch
menu.jpg

Amrywiaeth o fwydlenni

Mae ein cogyddion mewnol yn ymfalchïo mewn gweini bwyd ffres, tymhorol a chynaliadwy. Gallwn ddarparu amrywiaeth o fwydlenni blasus Cymreig, gan gynnwys brecwast, cinio bwffe poeth ac oer, a phrofiadau ciniawa cain. Darperir ar gyfer unrhyw ofynion deietegol. 

packages (2).jpg

Pecynnau corfforaethol

Rydym yn cynnig ystod o becynnau corfforaethol, ond os oes angen rhywbeth mwy penodol arnoch, byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu digwyddiad sydd wedi’i deilwra i’ch anghenion a’ch cyllideb benodol chi. 

Gweld ein Pecynnau Corfforaethol

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×