Skip to main content
Hanes

Hanes

Mae Tŷ a Pharc Bryngarw yn llawn swyn hanesyddol

Credir i Dŷ Bryngarw gael ei adeiladu yn y 18fed ganrif ac mae wedi cadw ei swyn hanesyddol. Erbyn hyn, mae’n lleoliad crand a chain, felly mae ansawdd eithriadol a soffistigeiddrwydd steilus yn sicr. Mae teithiau arbennig ar gael i’w trefnu, gwnewch ymholiad i drefnu apwyntiad.

back-drop.jpg

Cefnlen berffaith

Gofalir am Dŷ Bryngarw gan elusen gofrestredig, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy’n gweithio’n galed i warchod a hybu’r fioamrywiaeth o amgylch ein lleoliad. Mae’r cyffiniau’n darparu cefnlen berffaith i’ch dathliadau i dynnu lluniau i’w trysori am flynyddoedd lawer.

/
  • beginning.jpg

    LLEOLIAD YN LLAWN HANES

    Yn y dechreuad

    Mae’r sôn cyntaf ar gofnod am Fryngarw i’w weld ym 1569, mewn cofnodion tir yn gysylltiedig ag ystâd Goetre-hen. Credir yr adeiladwyd y Tŷ yng nghanol y 1700au gan y teulu Popkin cyfoethog o Forgannwg. 

  • Captain_Onslow_Powel_Traherne_and_dogs.jpg

    Anrheg Ymadawol

    Y Teulu Traherne

    Credir i'r Tŷ gael ei roi yn anrheg i chwaer John Popkin Ysw. ar ddiwedd y 1700au pan briododd ag Edmund Traherne Ysw. Yna fe'i trosglwyddwyd i lawr y teulu Traherne tan y 1940au, pan fu farw Capten Onslow Powell Traherne a gwerthwyd yr ystâd.

  • WNS_090621_Bryngarw_Country_Park_37-(3).jpg

    Lleoliad arobryn

    Parc gwledig

    Agorwyd Bryngarw yn swyddogol i’r cyhoedd fel parc gwledig ym mis Mai 1986. Ers hynny mae wedi ennill digon o ganmoliaeth, gan gynnwys ennill Gwobr Porth Darganfod, Gwobr y Faner Werdd a statws Treftadaeth Werdd, gan ei gydnabod yn un o’r mannau gwyrdd gorau yn y DU.

  • trust-image.jpg

    Mwy na pharc

    Adnewyddiad

    Ar ddechrau'r 1990au, cafodd Tŷ Bryngarw ei adnewyddu'n llwyr gyda chyllid Ewropeaidd, ar ôl bod ar gau am rai blynyddoedd, ac fe'i hail-agorwyd gan yr awdurdod lleol fel gwesty 19 ystafell wely, gydag ystafell wydr a bwyty newydd.

  • Daffodil.jpg

    Dyfodol disgleiriach

    Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen

    Ers 2005, mae’r Tŷ a’r Parc wedi’u rheoli gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, elusen gofrestredig, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Awen wedi buddsoddi bron i £1m o gyllid a'i chyfalaf ei hun mewn gwelliannau ar draws yr ystâd. 

Ystafelloedd yn llawn hanes

Mae popeth wedi’i ddylunio’n unigryw ar gyfer cysur a chyfleustra anhygoel, ac mae ein swyn hanesyddol i’w weld drwy gydol y Tŷ a'r Parc.

bryngarw-outside.jpg
Y Babell Fawr Bar Yr Ystafell Wydr Coetsiws Ystafelloedd Newid Ystafell Traherne Ystafell Mis Mêl
  • Y Babell Fawr
  • Bar
  • Yr Ystafell Wydr
  • Coetsiws
  • Ystafelloedd Newid
  • Ystafell Traherne
  • Ystafell Mis Mêl

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×