Skip to main content
Diwrnod eich priodas

Diwrnod eich priodas

Rhagori ar ddisgwyliadau

Eich diwrnod priodas chi ydyw a’n blaenoriaeth ni yw rhagori ar eich holl ddisgwyliadau. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu’r manylion a fydd yn gwneud eich dathliad yn ystyrlon ac yn gofiadwy. 

  • The wedding morning

    Paratoadau terfynol

    Mae gennym ddwy ystafell bwrpasol i chi a’ch parti priodas eu defnyddio ar fore eich priodas, a bydd ein tîm ni yn goruchwylio’r paratoadau terfynol.

  • The ceremony

    Y seremoni

    Mae gan Dŷ Bryngarw drwydded lawn i gynnal seremonïau priodas, sy’n cael eu cynnal yn yr Ystafell Traherne hardd. Mae’r ffenestri o’r llawr i’r nenfwd yn cynnig golygfeydd o’r gerddi a gallwn ddal hyd at 100 o westeion yn gyfforddus. 

  • After the ceremony

    Ar ôl y seremoni

    Ar ôl y seremoni, mwynhewch eich diodydd croeso a’ch canapés blasus ar y patio yn edrych dros y lawnt, yr ardd breifat yn edrych dros Ystafell Traherne Suite, neu yn ein hystafell wydr. 

  • Photographs

    Lluniau

    Bydd digon o ddewis i’ch ffotograffydd. Mae llwybrau coetir, llwybrau bordiau, carpedi clychau’r gog a dolydd o flodau gwyllt brodorol a phlanhigion a nodweddion Japaneaidd yn gwneud Parc Gwledig Bryngarw yn arbennig drwy’r flwyddyn gron.

  • Food & drink

    Bwyd a diod

    Mae ein pabell fawr yn lleoliad gwych ar gyfer eich brecwast priodas, wedi’i ddarparu gan ein tîm arbennig o gogyddion profiadol a fydd yn gweithio gyda chi i greu bwydlen bwrpasol ar gyfer eich diwrnod. Darperir ar gyfer unrhyw ofynion deietegol, ac yn unol â’n hymrwymiad i gynaliadwyedd, daw cynifer â phosibl o’n cynhwysion o ffynonellau lleol - daw rhai hyd yn oed o’n tir ein hunain.

    Bwydlen Brecwast Priodas Hanfodol

    Bwydlen Brecwast Priodas Eithaf

    Bwydlen Plant

  • Celebrate

    Dathlu

    Mae gennym ddau far i chi eu defnyddio yn ystod eich dathliadau – un yn y babell fawr ac un arall, sy’n fan llawer mwy clyd – a’r ddau yn gwerthu cwrw amrywiol o Gymru, lager, gwin a gwirodydd.

  • Dance the night away

    Dawnsio trwy’r nos

    Ar ôl eich brecwast priodas, paratowch i ddawnsio trwy’r nos gyda hyd at 250 o westeion yn eich derbyniad nos. Gallwn argymell DJ, bandiau a diddanwyr eraill ac rydym yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau bwyd ar gyfer y nos.

  • Honeymoon Suite

    Ystafell Mis Mêl

    Mae gennym 18 o ystafelloedd sydd ar gael i westeion aros dros nos yn Nhŷ Bryngarw, ac mae gwesteion a llety gwely a brecwast eraill taith fer i ffwrdd mewn tacsi. Mae ein hystafell mis mêl ar gael am ddim ac mae’n ddelfrydol i dreulio’ch noson briodas. Gweinir brecwast yn yr ystafell wydr y bore wedyn.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×