Skip to main content
Tystebau Priodas

Tystebau Priodas

Dyma beth oedd gan rai o’n cyplau hyfryd i’w ddweud am Dŷ Bryngarw ar ôl eu diwrnod arbennig.

“Fe wnaethon ni drefnu’r lleoliad yn 2021 a syrthion ni mewn cariad ag ef cyn gynted i ni yrru i fyny'r dreif! Roedd yn waith cynllunio hawdd, di-straen i mi gyda chymorth merched Bryngarw! Roedden nhw'n ANHYGOEL! Louise oedd fy nghydlynydd priodas ar y diwrnod ac roedd hi'n wych, aeth hi llawer mwy na’r disgwyl drostaf i. Fyddai fy niwrnod i ddim wedi bod yr un fath pe na bai hi yno. Doedd dim byd yn ormod iddyn nhw dros y cyfnod cynllunio cyfan ac ar y diwrnod. Roedd y bwyd yn fendigedig a phawb yn canmol pa mor wych yw’r lleoliad, roeddwn i wrth fy modd a dw i eisiau gwneud y cyfan eto.”

“Hoffai fy ngŵr a minnau ddweud pa mor ffantastig oedd ein diwrnod. O’r dechrau i'r diwedd roeddech chi gyd mor barod i helpu, a wnaeth ein profiad ni gymaint yn well. Pan gyrhaeddon ni'r noson gynt i aros yn y Coetsiws cawsom groeso hyfryd, a bwffe gwell fyth gyda swigod. Dywedodd pob gwestai pa mor anhygoel oedd y diwrnod, ac mae'r ddau ohonom yn cytuno. Aeth y diwrnod mor ddidrafferth ac roedd yn teimlo mor hamddenol ac roedd hynny oherwydd y staff gwych. Roedd y bwyd yn hollol ragorol a chawsom gymaint o ganmoliaeth gan y gwesteion am y canapés a'r pryd. Roedd y llety mor gyfforddus a chawsom ni i gyd noson wych o gwsg. Mae'r tir a'r golygfeydd yn syfrdanol er roeddwn ni'n gobeithio am eira a chawsom ni law. Allwn ni ddim diolch digon i chi am yr holl help rhoddoch i ni trwy gydol yr holl broses. O weld y lleoliad, i drefnu'r lleoliad i gael y diwrnod priodas mwyaf rhyfeddol. Byddem yn argymell yn fawr briodas yn Nhŷ Bryngarw i’n teulu a’n ffrindiau.”

"Cawsom briodas fy merch penwythnos diwethaf, profiad hollol wych. Roedd y staff yn hynod gymwynasgar a chwrtais. Roedd y bwyd o'r radd flaenaf, yr ystafell yn ardderchog. Byddwn yn bendant yn argymell y lleoliad hwn i unrhyw un.”

“Dewison ni’r lleoliad hwn ym mis Medi 2020 ac mae’r broses gyfan ers hynny wedi bod yn hynod o ddidrafferth. Mae cynllunio priodas yn frawychus ac yn gallu achosi llawer o straen ond gwnaeth tîm Bryngarw hi gymaint yn haws a’n galluogi i ni fwynhau ein diwrnod. Gwelsom fod lefelau'r gwasanaeth yn hollol eithriadol - hyd yn oed gyda chyswllt yn newid yn gyson oherwydd absenoldeb mamolaeth ymhlith y tîm cydlynu! Atebwyd unrhyw gwestiwn, doedd dim cais yn rhy fawr nac yn rhy fach, ac fe wnaeth pawb ein trin â chynhesrwydd a rhannu’r cyffro wrth inni baratoi ar gyfer ein diwrnod mawr. Pan gyrhaeddodd y diwrnod o'r diwedd, bu tîm cyfan Bryngarw yn helpu i gynnal yr achlysur yn ddidrafferth ac yn ddi-dor. Yn wir, ni allem fod wedi bod yn hapusach o gwbl. Diolch i bawb ym Mryngarw, yn enwedig Naomi, Bliss, Demi a Louise y gwnaethom dreulio y rhan fwyaf o’n hamser gyda nhw a’n galluogodd i gael y diwrnod priodas mwyaf bythgofiadwy y gallem fod wedi gobeithio amdano!”

“Diolch i chi gyd am roi diwrnod mor arbennig i ni ar yr 8fed o Hydref 2022. Aeth Louise y tu hwnt i bob disgwyl i ni, mor galonogol ac anhygoel. Mae Tŷ a Pharc Bryngarw bob amser wedi golygu llawer i’n teuluoedd ni felly mae cael diwrnod priodas mor brydferth yno wedi rhoi cymaint mwy o ystyr iddo i ni. Cafodd pawb ddiwrnod mor hyfryd ac roeddynt yn canmol y staff, y lleoliad a’r bwyd yn fawr! Diolch hefyd i’r merched i gyd wnaeth ein helpu ni ar hyd y daith.”

"Dw i eisiau dweud diolch enfawr am bopeth wnaethoch chi i ni ar ddiwrnod ein priodas. Dywedodd pawb mor didrafferth yr aeth popeth o'r dechrau i'r diwedd ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb eich staff a'ch cydlynwyr anhygoel Demi a Naomi. Sicrhaodd Demi a Naomi fy mod i ac Elis yn iawn o'r cychwyn cyntaf hyd at y diwedd, ac roeddent bob amser yno i dawelu ein meddyliau. Nid oedd unrhyw drafferthion o gwbl trwy gydol y dydd a chi sy'n gyfrifol am hynny. Roedd y bwyd yn hollol anhygoel hefyd. Roedd pawb wedi dweud pa mor hyfryd oedd y platiau cychwyn, y prif brydau a'r pwdinau ac rydym yn cytuno'n llwyr! Clywsom fod y canapés hefyd yn flasus. Roedd yr ystafelloedd yn berffaith ac wedi'u haddurno'n hardd hefyd i bawb a oedd yn aros yn y lleoliad. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd unwaith eto am wneud ein diwrnod yn gwbl berffaith, yn wir roedd wedi rhagori ar ein disgwyliadau a hoffem allu gwneud y cyfan eto! Roedd holl staff Bryngarw yn hynod o gyfeillgar a gofalgar, ac a dweud y gwir ni allem ddiolch digon i chi i gyd.”

"Ble rydyn ni'n dechrau, jest waw! Mae'r lleoliad ei hun yn hollol brydferth, ond, mae'r staff yno yn gwneud y diwrnod mor berffaith i chi. O'r dechrau i'r diwedd all y tîm ddim gwneud digon i chi, does dim byd yn ormod iddyn nhw. Aeth y diwrnod mor ddidrafferth roedd yn berffaith, cawsom ddiwrnod priodas llawn dop ac roedden nhw'n dal i dynnu'r cyfan at ei gilydd i ni heb unrhyw broblemau o gwbl. Mae'r bwyd yn rhagorol, o'r bwffe’r noson gynt, y brecwast cyfandirol, brecwast priodas a bwffe, roedd e mor hyfryd. Rydym mor falch ein bod wedi dewis Bryngarw ar gyfer ein diwrnod arbennig hwn oedd y diwrnod gorau erioed, a diolch enfawr i’r holl staff, chi wir yw’r gorau am yr hyn yr ydych yn ei wneud.”

"Wedi dod i lawr o’r cymylau ar ôl diwrnod anhygoel dydd Sadwrn diwethaf, roedden ni eisiau dweud diolch yn fawr iawn unwaith eto am eich cefnogaeth ar ddiwrnod ein priodas i'w helpu i’w gynnal mor ddidrafferth â phosib! Roedd wir fel breuddwyd. Diolch yn fawr iawn i Demi am y gefnogaeth yn y cyfnod paratoi, yn enwedig ddydd Gwener 18fed, i Louise ar y diwrnod ei hun, gwnaethoch i ni deimlo y gallem ymlacio a chael yr amser gorau. Diolch yn fawr am y sicrwydd a'r caredigrwydd hwnnw trwy gydol y dydd, cawsom lawer o sylwadau cadarnhaol gan ein gwesteion am y staff yn ystod y dydd. Diolch yn fawr i Sian hefyd am gymryd yr awenau gyda'r nos, roedd hi'n gallu ateb unrhyw gwestiynau oedd gennym ni a rhoi'r nod i ni i ddweud bod popeth yn mynd yn dda! Canmoliaeth hefyd i'r cogydd a thîm y gegin, roedd y bwyd yn wirioneddol ffantastig, mor flasus, ac roedd yr amseru yn berffaith. Eto, cawsom gymaint o adborth positif gan ein gwesteion am y bwyd! Roedd yn wych o ystyried nad oeddem wedi gallu dod i noson flasu. Rydyn ni'n dal i freuddwydio am y ‘sticky toffee pudding!’ O hyn ymlaen byddem yn bendant yn argymell Bryngarw i unrhyw un rydym yn ei adnabod, roedd y lleoliad yn berffaith, roedd y bwyd yn anhygoel ac roedd pawb mor gyfeillgar ac yn wirioneddol ymddangos fel pe baent eisiau ein helpu i gael y diwrnod gorau. Edrychwn ymlaen at ddod yn ôl gyda Ralff am dro yn y dyfodol i ail-fyw’r diwrnod mawr arbennig.”

"Ble rydyn ni'n dechrau?! Diolch yn fawr iawn i chi i gyd am wasanaeth o'r radd flaenaf a diwrnod syfrdanol! Bu Bliss yn ein cynorthwyo ni mewn unrhyw ffordd bosibl yn ystod y ddwy flynedd yn arwain at y diwrnod - doedd dim byd yn ormod o drafferth a theimlwn mor dawel ein meddwl o ystyried yr amgylchiadau cythryblus. Buom mor ffodus i gael ein diwrnod yn ôl y bwriad heb unrhyw oedi. Llifodd diwrnod y briodas ei hun yn ddi-dor ac aeth Sasha a’r tîm blaen tŷ y tu hwnt i bob disgwyl i ofalu amdanom ni a’n gwesteion. Ni allem fod wedi bod yn hapusach gyda'r bwyd, yr awyrgylch a gwaith gwych pob aelod o staff a gymerodd ran. Mae pob un o’n gwesteion wedi dweud pa mor wych oedd pawb a’u bod yn teimlo mor groesawgar a chyfforddus. Allwn ni ddim diolch digon i chi am eich holl waith caled tuag at ein diwrnod. Roedd yn wirioneddol berffaith.”

Byddem yn llwyr argymell Tŷ Bryngarw fel lleoliad priodas! Teimlwn ein bod wedi cael gofal llwyr, heb unrhyw straen ar y diwrnod, staff cyfeillgar, bwyd anhygoel (yn enwedig gyda gofynion dietegol) awyrgylch hynod ymlaciol. Diolch yn fawr iawn am ein helpu i wneud ein diwrnod mor hyfryd ag yr oedd.

“Ble ‘ydyn ni hyd yn oed yn dechrau. Rydyn ni eisiau dechrau trwy ddweud diolch enfawr i chi i gyd am gynnal ein priodas a bod yn anhygoel trwy gydol yr holl broses. Priodais i a fy ngŵr yma ar 5 Tachwedd 2021 ar ôl archebu lle ym mis Mawrth 2018. Oherwydd Covid bu’n rhaid i ni aildrefnu’r dyddiad bedair gwaith arall ac roedd y lleoliad mor gymwynasgar ac effeithlon o ran sicrhau ein bod yn cael y diwrnod yr oeddem bob amser yn breuddwydio amdano. Roedd y staff yn gwneud popeth posibl i ni ac fe aeth y diwrnod yn berffaith a phan na gyrhaeddodd ein DJ ni, fe wnaeth Sasha bopeth o fewn ei allu i gael gafael arnyn nhw. Does dim byd wedi bod yn ormod i unrhyw un ohonoch chi ac rydych chi i gyd wedi ateb fy nghannoedd o gwestiynau ac ymholiadau ar hyd y ffordd. Mae'r ddau ohonom wedi ein digalonni bod y diwrnod ar ben a bydd lle arbennig yn fy nghalon i Bryngarw am byth. Aeth y diwrnod yn well na'r disgwyl ac mae'r lleoliad yn hollol hyfryd. Roedd y lleoliad, y bwyd a’r staff heb ei ail ac mae ein teulu a’n ffrindiau i gyd wedi dweud yr un peth. Fydda i byth yn gallu diolch digon i chi am bopeth rydych chi wedi'i wneud i ni.”

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×