Skip to main content

Ddylai cariad ddim gorfod aros

Website Why Wait 3.jpg

Yn cyflwyno Pam Aros yn Nhŷ Bryngarw

Rydych chi wedi dod o hyd i’r un i chi. Felly pam treulio blynyddoedd yn aros am y briodas? 

Mae gormod o gyplau yn gohirio eu priodas tra maen nhw’n cynilo ac yn aros am y foment iawn. Rydym wedi creu Pam Aros fel eich bod chi’n gallu priodi yn 2027, am bris y gallwch chi gynllunio ar ei gyfer, yn y tŷ a’r parcdir rydym wrth ein boddau yn eu rhannu gyda chyplau. 

Mae’n bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer diwrnod hyfryd, y cyfan yn barod i fynd a chydlynydd ymroddedig i ddelio â’r manylion. 

Holi am Pam Aros

Yn berffaith ar gyfer cyplau sy’n barod i briodi

Mae Pam Aros yn berffaith i chi:   

•    Os ydych chi eisiau priodi yn 2027 a dydych chi ddim eisiau aros yn hirach
•    Os ydych chi eisiau priodas sy’n costio’r hyn rydych chi’n gyfforddus yn ei wario
•    Os hoffech chi ddiwrnod llai o faint gyda’r bobl sydd bwysicaf i chi
•    Os hoffech chi i rywun profiadol eich tywys drwy’r cynllunio
 

Website Why Wait.jpg
Website Why Wait.jpg

Pam mae priodas llai o faint yn golygu mwy

Gyda 50 o westeion, mae gennych amser i dreulio amser gyda phawb a ddaeth i ddathlu gyda chi. Mae’r areithiau’n golygu mwy pan fydd pawb yn yr ystafell yn gwybod eich stori, ac mae’r diwrnod yn teimlo fel eich un chi o’r eiliad gyntaf i’r ddawns olaf.  

Popeth sydd ei angen arnoch, am £5,950

Archebwch y dyddiad am £1,500 ac yna lledaenwch y gost gyda chynlluniau talu misol, neu talwch y balans sy’n weddill 6 wythnos cyn diwrnod eich priodas. Gyda phecyn Pam Aros bydd Tŷ Bryngarw ar gael yn arbennig i chi a 50 o westeion, ac fe ofalwn ni am yr isod.  

Y lleoliad

•    Llogi’r lleoliad yn arbennig i chi
•    113 erw o barcdir arobryn ar gyfer eich ffotograffau
•    Bwa blodau wedi’i wisgo yn barod ar gyfer eich seremoni
•    Llawr dawnsio pren derw (uwchraddio ar gael)

Bwyd a diod

•    Diodydd ar ôl y seremoni ar gyfer 50 o westeion
•    Bwffe Taverna Groegaidd neu Rhost Mochyn ar gyfer 50 o westeion (uwchraddio ar gael)

Yr ystafell

•    Yr holl wydrau, llestri a chyllyll a ffyrc
•    Llieiniau bwrdd a napcynau lliain gwyn
•    Cadeiriau Chiavari

Aros dros nos​​​​​​​

•    Ystafell mis mêl am ddim
•    6 ystafell wely wedi’u cynllunio’n unigol i’ch gwesteion

Cymorth i gynllunio​​​​​​​

•    Cydlynydd priodas ymroddedig o’ch ymholiad cyntaf i ddiwrnod eich priodas

Website Why Wait 2.jpg

Cynlluniwch eich diwrnod perffaith

Dechreuwch gyda’r pecyn ac ychwanegwch y pethau sy’n bwysig i chi.

•    Ein DJ ni
•    Pecyn diodydd wrth gyrraedd
•    Brecwast priodas 3 chwrs
•    Canapés
•    Gwin bwrdd
•    Byrbrydau gyda’r hwyr
•    Gwesteion ychwanegol, cost y pen
•    13 ystafell wely ychwanegol i westeion

Gall yr holl ddyddiadau sydd ar gael yn 2027 gael eu harchebu o dan y pecyn hwn, beth bynnag fo’r tymor neu’r diwrnod o’r wythnos!  Mae cyfraddau arbennig yn berthnasol i ddyddiadau dros y Pasg a chyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. 

Dim ond nifer cyfyngedig o ddyddiadau sydd ar ôl ar gyfer 2027, felly os oes gennych ddyddiad mewn golwg, byddem yn argymell eich bod chi’n cysylltu â ni yn fuan i archebu’r dyddiad rydych yn ei ffafrio! 

Mae eich stori chi yn ein helpu i barhau i adrodd ein stori ni

Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, elusen gofrestredig, sy’n gofalu am Dŷ Bryngarw. Mae pob priodas sy’n cael ei chynnal yma yn ein helpu i ofalu am y tŷ a’r parcdir fel bod mwy o gyplau yn gallu dechrau eu stori yn yr un lle ag y gwnaethoch chi ddechrau eich un chi. 

Mae eich priodas yn 2027 yn dechrau yma

Dywedwch ychydig wrthym am eich cynlluniau a bydd ein cydlynydd priodas yn cysylltu â chi i drafod dyddiadau a threfnu ymweliad. 

Da i wybod

Mae’r pecyn yn seiliedig ar o leiaf 50 o westeion, a gall gwesteion ychwanegol gael eu hychwanegu am gost y pen. Mae cyfraddau arbennig yn berthnasol i ddyddiadau dros y Pasg a chyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Fydd eich dyfynbris ddim yn newid unwaith y byddwn yn derbyn eich blaendal (does dim modd ad-dalu’r blaendal hwn).