Skip to main content
Achlysuron

Achlysuron

Cynllunio perffaith ar gyfer unrhyw achlysur

P’un a ydych chi’n trefnu parti pen-blwydd neu ginio pen-blwydd priodas ar gyfer hyd at 100 o westeion neu fod angen lle mwy clyd arnoch i gynnal parti babi neu wledd angladd, bydd ein tîm yn Nhŷ Bryngarw yn gweithio gyda chi i gynnal digwyddiad sy’n gweddu’n berffaith i'ch anghenion a’ch cyllideb. 

trust-image.jpg

GWNEUD GWAHANIAETH

Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen

Gofelir am Dŷ Bryngarw gan elusen gofrestredig, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Trwy gynnal eich achlysur arbennig yma, byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl leol a fydd yn elwa ar lesiant a chyfleoedd Awen ledled De Cymru.  

Ymholwch

Dathliadau

Rydym yn cynnig pecynnau pwrpasol ar gyfer pob digwyddiad. Byddem wrth ein bodd i’ch dangos o amgylch Tŷ Bryngarw a thrafod eich gofynion.

christining.jpg

Bedydd babi

funeral.png

Gwledd angladd

baby-shower.png

Parti babi

bar.jpg

Pen-blwyddi

P’un a ydych yn dathlu carreg filltir arbennig neu’n dymuno cynllunio dathliad pen-blwydd gyda’ch anwyliaid, gallwn helpu i gynllunio noson bwrpasol i’w chofio yn Nhŷ Bryngarw.

anniversaries.jpg

Pen-blwyddi Priodas

Cariad newydd, hen gariad, eich pen-blwydd priodas cyntaf neu eich hanner canfed; yn Nhŷ Bryngarw credwn fod cariad yn rhywbeth i'w ddathlu.

packages (2).jpg

Aduniad

Awydd dod ynghyd â hen ffrindiau neu deulu? Os nad ydych wedi gweld eich anwyliaid ers tro oherwydd eich amserlenni prysur, yna mae dod at eich gilydd yn Nhŷ Bryngarw yn ffordd berffaith o ddal i fyny.

Corfforaethol

Mae Tŷ Bryngarw wedi’i leoli yng nghanol Parc Gwledig Bryngarw arobryn, sy’n ei wneud y lleoliad delfrydol ar gyfer yr encil gwledig perffaith. Rydym yn cynnig mannau hyblyg ar gyfer eich cyfarfod, cynhadledd, cinio gwaith, cwrs hyfforddi neu ginio mawreddog nesaf.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×